| 
 Llefydd Llonydd yw cyfres o  ‘drysorau cudd’ i chi eu darganfod ledled Gogledd CeredigionMae pob cyrchfan yn adrodd hanes eglwys neu gapel  lleol mewn ffordd newydd ac ysbrydoledig. Dysgwch am fywydau pobl leol, ddoe a  heddiw, mwynhewch brydferthwch naturiol y dirwedd a’i bywyd gwyllt. Camwch o’r  llwybrau arferol i lefydd diarffordd, ewch ar antur o’r môr i’r bryniau a  darganfyddwch olygfeydd, synau a storïau rhyfeddol ar hyd y ffordd. Mae Llefydd Llonydd yn cynnig  14 o gyrchfannau bendigedig i chi fynd iddynt – y mae gan bob un ohonynt  storïau diddorol, golygfeydd syfrdanol a dirgelion difyr i’w darganfod.  Dewiswch le i ymweld ag ef drwy bori’r map a bydd y cyswllt yn mynd â chi i’r  dudalen briodol ar wefan Llefydd Llonydd.
           Am y Llwybr:           
Llwybr twristiaeth treftadaeth yw Llefydd  Llonydd, sy’n adrodd straeon clwstwr o eglwysi a  chapeli ar draws Gogledd Ceredigion. Crwydrwch y wlad i ddarganfod bywyd gwyllt a harddwch naturiol  ysblennydd, hanes teuluoedd a straeon am ddigwyddiadau a gorchestion dynol,  ynghyd â phensaernïaeth, celf a chrefftwriaeth benigamp.Mae Llefydd Llonydd  yn deillio o brosiect Llwybr Treftadaeth Eglwysi Gogledd Ceredigion, ac fe’i  cefnogir gan Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) gyda  buddsoddiad gan Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF). Rheolir  y prosiect gan Treftadaeth  Llandre Heritage; mae gwaith yn cael ei wneud gan yr  ymgynghorwyr Countryscape a Creu-ad.Nid llwybr ffydd yn  yr ystyr draddodiadol mo Llefydd  Llonydd. Ei bwrpas yw dathlu treftadaeth pob eglwys a chapel mewn ffyrdd sy’n  berthnasol i bawb, ni waeth beth yw eu credoau crefyddol. Mae’n annog ymwelwyr  i brofi eglwysi a chapeli o safbwyntiau newydd – fel lleoedd i fyfyrio a chael  ysbrydoliaeth, fel cyfleoedd i “wneud rhywbeth yn wahanol” a mwynhau cymryd  pethau’n arafach, ac fel cyrchfannau lle gellir treulio “amser gwerth chweil”  yng nghanol prydferthwch a llonyddwch cefn gwlad.
 
 Mae’r prosiect wedi cael ei ddatblygu mewn  partneriaeth â chymunedau lleol ym mhob un o’r cyrchfannau ar y llwybr –  hebddyn nhw, ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl. Hoffem fanteisio ar y  cyfle hwn i ddiolch yn fawr i bawb a fu’n gwmni i ni ar hyd y daith – mae eich  angerdd a’ch brwdfrydedd wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig!
 
 |