![]() |
---|
Eglwys Sant Mihangel ym mhentref Eglwys-fach yw’r eglwys blwyf fwyaf gogleddol yn Esgobaeth Tyddewi. Roedd eglwys ar y safle cyn yr adeilad presennol o’r enw Llanfihangel Capel Edwin sy’n dyddio o 1623 ac efallai bod eglwys leol yn yr ardal cyn hynny. Ystyr Llanfihangel Capel Edwin yw ‘Capel Edwin yn perthyn i Eglwys Sant Mihangel’. Yn ôl yr hanes, daeth y Brenin Edwin o Northumbria â byddin i lawr drwy ogledd Cymru gan groesi afon Dyfi ger Pennal. Enillodd frwydr yn Llandre a dychwelodd i’w wersyll yn Ynys Edwin ger moryd Dyfi lle mae fferm o’r un enw hyd heddiw. I ddiolch i’r Arglwydd am ei fuddugoliaeth dywedir iddo sefydlu capel o’r enw Capel Edwin a gâi ei ddefnyddio fel mynwent hefyd o bosibl. Ym 1833 cafodd eglwys Llanfihangel Capel Edwin ei dymchwel yn llwyr a’i hailadeiladu. Cysegrwyd yr eglwys sy’n sefyll yma heddiw i Sant Mihangel. Cafodd ei dylunio gan y pensaer George Clinton a’i chodi gan D. a W. Lewis am y swm o £500. Mae’r cynllun yn syml, yn y dull ‘blwch pregethu’ Gothig Tuduraidd. Ychwanegwyd y gangell ym 1914. Credir bod porth y fynwent yn perthyn i eglwys 1623 er iddo gael ei ailadeiladu’n sylweddol a’i helaethu ym 1833. FFYNNON SANTES NON
|
Cynllun yr Incorporated Church Building Society o Eglwys Sant Mihangel, Eglwys-fach, adeg ei hadeiladu ym 1832.
|
site designed by www.insightillustration.co.uk |