Gellir trefnu teithiau tywys. Defnyddiwch y ffurflen gysylltu uchod i wneud apwyntiad.
Mae’r eglwys wedi’i lleoli ar yr A487, 12 milltir i’r gogledd o Aberystwyth a 6 milltir i’r de o Fachynlleth. Mae parcio ar gael a cheir gwasanaeth bws rheolaidd.
Mae’r Ystafell Haearn (Adeilad Rhestredig Gradd 2) gerllaw. Cafodd ei hadfer yn ddiweddar i greu neuadd bentref a maes parcio y gellir eu bwcio. Mae yma hefyd ardd fach ar gyfer mwynhau picnic a seibiant.